2 869 855 libros electrónicos en 110 idiomas
¿No le conviene? No hay problema. Puedes devolver los artículos hasta 30 días
No se equivocará con un vale de regalo. El destinatario puede elegir cualquier producto de nuestra oferta.
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.