2 888 154 libros electrónicos en 110 idiomas
¿No le conviene? No hay problema. Puedes devolver los artículos hasta 30 días
No se equivocará con un vale de regalo. El destinatario puede elegir cualquier producto de nuestra oferta.
Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy'n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy'n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd. Gweinydd yw Gwawr, sef un sy'n cynnal seremoniau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi'n cynnal defodau sy'n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi'n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o'i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ol i'r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ol i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i'w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu'n faleisus yn ei herbyn - yn benderfynol o'i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy'n ceisio difetha ei gyrfa a'i busnes. Mae'n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a'i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar l blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?
¡Hola! Soy Libroamiko, tu asesor de libros.
¿Cómo puedo ayudarte?